Merched Cymru dan 19 v Estonia (10 Ebrill 2023)

Cymru 4-0 Estonia
Cynghrair B yr Ewros
Central Park, Dinbych
Pris Mynediad: £3, plant am ddim
Torf: 350 (amcangyfrif)

Tua blwyddyn union y ôl roeddwm wedi bod yn ffodus i gael gwylio gêm gyfeilllgar Cymru dan 16 v Sbaen (bechgyn) ar y maes yma tra’n ymweld â fy rheini. Mae’r tîm hwnnw, bellach yn cystadlu fel tîm dan 17, wedi dod y tîm Cymru cyntaf yn grwp oedran hwnnw i gyrraedd rowndiau terfynnol yr Ewros.

A ninnau’n ymweld â Dinbych y Pasg hwn hefyd, sylwais ar drydariad wythnos ynghynt yn dweud bod dwy gêm gymhwyso ar gyfer Ewros dan 19 y merched am gael eu cynnal yn Central Park dros benwythnos gwyl y Banc. Os basem yn gadael Swydd Efrog yn syth ar ôl brecwast, efallai byddem yn cyrraedd mewn pryd i weld yr ail gêm a oedd yn dechrau am hanner dydd. Roedd hi’n tywallt y glaw ac fel y gwelwch o’r llun efallai, roedd Bryniau Clwyd yn anweledig bron. Tra aeth y teulu cyfan y llynedd, dim ond y ferch ieuengaf oedd am ddodgyda fi y tro hwn – dwi’n meddwl bod hi wedi dal y byg gwylio gemau!

Nid mod i’n un o’r groundhoppers yma sy’n mynnu teamsheet ble bynnag mae’n mynd, ond byddai’n neis gwybod pwy yw pwy ac i ba glwb maent yn chwarae. Des o hydi’r lineup ar gyfrif Twitter @cymru a manylion y garfan ar wefan dragonsoccer.

Emily Roberts (Cardiff City Women)
Amelia Forkings (Cardiff Met)
Lauren Purchase (Aston Villa – on loan at Loughborough Lightning)
Maisie Miller (Brighton & Hove Albion)
Scarlett Williams (Tottenham  – on loan at Billericay Town)
Hollie Smith (Cardiff City Women)
Bethan McGowan (Birmingham City)
Jessie Taylor (Cheltenham Ladies)
Lily Billingham (Cardiff City Women)
Phoebie Poole (Cardiff City Women)
Manon Pearce (Cardiff City Women)
Tianna Teisar (Cardiff City Women)
Beth Thomas (Liverpool)
Faye Knox (Liverpool)
Jessica Collyer (West Ham United  – on loan at Crawley Wasps)
Olivia Owen (West Bromwich Albion)
Claudia Jones (Liverpool)
Ella Humphrey (Brighton & Hove Albion – on loan at Portsmouth)
Megan Curran (Brighton & Hove Albion)
Megan Bowen (Cardiff City Women)

Roedd yn dda gweld cymaint yn chwarae i glybiau o Gymru ac yn yr 11 cyntaf. Ffefryn yn syth oedd Lily Billingham, ac roedd rhes o’i ffrindiau yn eistedd o’n blaenau, oll yn dal cerdyn a llythyren/rhif arno yn gwneud: LILY#8.

Ar ôl curo Kazakstan 5-2 yn y gêm flaenorol ac yna curo Estonia 4-0 yn hawdd, enillodd Cymru y grwp mini yn Rownd 2, ar ôl gorffen ar waelod eu grwp yn Rownd 1. Mae’n golygu, dwi’n meddwl, y cânt eu gosod mewn grwp mwy caredig y tro nesaf.

Goytre United v Caernarfon (17.12.19)

Goetre Unedig 0-4 Caernarfon
Cwpan Cymru
Stadiwm Glenhafod
Pris Mynediad: £5, rhaglen £1
Torf: 60 (amcangyfrif)

Pan ddaeth yr enwau allan o’r het, roedd ambell i gêm yn y de yn apelio ble roedd gwrthwynebwyr lefel uwch yn ymweld, ond gan fod gêm Caerfyrddin v Rhydaman wedi’i symud i nos Wener i’w darlledu’n fyw ar Sgorio, doedd dim dwywaith mai i wylio Goetre Unedig v Caernarfon roeddwn am fynd.

Tan yn ddiweddar, bu dau dîm gyda’r enw Goytre (neu Goetre’n Gymraeg yn ôl arwydd ffordd ger yr M4) yn ail haen pêl-droed Cymu yn y de, ond bellach mae’r Goytre o Benberlleni, Sir Fynwy wedi disgyn i’r drydydd, ac i’r un gyda ‘Unedig’ yn ei enw ger Port Talbot ro’n i’n mynd.

Arwydd Goetre ger yr M4

Wedi dod oddi ar y trên ym Mhort Talbot, roedd modd dal bws i’r Goetre, ond gan mai cwta filltir i’r gogledd o’r M4 mae’r pentref, dewisais gerdded. Ymhen llai na deng munud (ac wedi mynd heibio maes Clwb Rygbi Aberafan a’i deras agored anferth – un at eto efallai), roeddwn yn ardal Penycae, ar ddiwedd cul-de-sac Wildbrook. Yno mae dechrau Llwybr Bryn Goetre, sy’n dilyn afon Ffrwd Wyllt.

Arwydd Llwybr Bryn Goytre

Yn sydyn iawn, rydych yn gadael suburbia Port Talbot ac rydych mewn ardal goediog ar waelod dyffryn cul. Wrth edrych ar fapiau ar-lein, doedd hi ddim yn amlwg iawn ym mhle y byddwn yn gallu croesi Ffrwd Wyllt, ond roedd fideo YouTube gan y flogiwr brwdfrydig The Groundhopper (sydd wedi diflannu o’r we’n llwyr yn ddisymwth) yn dechrau gydag yntau’n croesi bont fechan ger y Glenhafod, felly rô’n i’n hyderus na fyddwn yn gorfod gwlychu fy nhraed/nofio. Pan gyrhaeddais y bont, roedd yn arwain at barc gwyliau bychan, a doeddwn i ddim yn 100% os oedd mynediad cyhoeddus drwy’r lle, ond gan fod arwydd yn croesawu unrhyw gerddwyr i ‘Tafarn y Tymor’ ar y safle (sef y dderbynfa a bar mewn cwt pren mawr), dehonglais hyn fel gwahoddiad i gerdded drwyddo.

Tu allan i’r stadiwm

Talais am fynd i mewn i’r maes ac am raglen cyn holi am y clubhouse. Roeddwn wedi cerdded heibio iddo wrth adael y parc gwyliau. Dywedodd y boi ar y giât y byddai’n cofio fy wyneb (pwy all beidio?), a throis am y clubhouse. Er mod i’n rêl snob pan ddaw i gwrw, mi wnes i fwynhau fy mheint o Tetley’s Smooth, ac er mod i’n dweud nad oes dim diddordeb gennyf mwyach ym mhêl-droed Uwchgynghrair Lloegr, roedd yn neis gwrando ar Sky Sports News ac Everton yn curo Chelsea o dan arweiniad Duncan Ferguson, un o arwyr fy mhlentyndod (blaw am y bit lle cafodd ei garcharu am benio gwrthwynebydd…).

Torf denau

Fel sydd wedi cael i nodi gan eraill, mae’r maes wedi’i leoli mewn lle prydferth iawn, a fasech chi byth yn meddwl eich bod mor agos at Bort Talbot a’r M4, ac os rhywbeth roedd y glaw mân yn ychwanegu at y prydferthwch. Torf siomedig iawn o tua 60 oedd yn gwylio’r gêm, ac o’r rhain roedd ambell groundhopper fel minnau, a rhyw ddwsin yn gefnogwyr Caernarfon dybiwn i, o’u sgarffiau a hetiau melyn a gwyrdd a’r ffaith eu bod yn siarad Cymraeg wrth gwrs. Roedd yn braf iawn hefyd clywed cymaint o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio gan y chwaraewyr ar y cae gan yr ymwelwyr, er mond rhegfeydd oedd yn dod o enau gôl geidwad y Cofis (ar fenthyg o YSN yn ôl y rhaglen). Dwi’n ymddiheuro iddo os yw’n dioddef o tourettes, ond bob tro aeth rhywbeth o’i le, hyd yn oed os oedd un o’i gydchwaraewyr yn methu’r darged pen arall y cae, roedd yn bloeddio “Fxxx off” byth a hefyd. Annifyr.

Dechreuodd y tîm cartref yn dda, ond sgoriodd yr ymwelwyr ddwy gôl tua hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf, ac roedd hi’n edrych yn dalcen caled, er nid yn amhosib, i Goytre ddod yn ôl i mewn i’r gêm. Yna, gyda llai na phum munud yn weddill o’r hanner cyntaf, llawiodd un o chwaraewyr Goytre ar y llinell gôl gan olygu cerdyn coch iddo, ac mi sgoriwyd o’r gic o’r smotyn. Yna, llwyddodd Caernarfon i wasgu pedwaredd gôl jest cyn yr egwyl. Rhywsut ni chafwyd mwy o goliau yn yr ail hanner.

Roeddwn wedi bwriadu dal y bws yn ôl i’r orsaf, ond gyda hithau’n dechrau tywyllu a dim golwg o balmant ar y ffordd gul a throellog at y safle bws, penderfynais olrhain fy nghamau yn ôl ar hyd y llwybr ger yr afon. Roedd y drws i fynd o’r parc gwyliau at y llwybr yn ymddangos ar gau, ond doedd o ddim dan glo. Mae’r llwybr yn mynd heibio sied sy’n llawn bustych yn cael eu pesgi ac roedd eu sŵn yn bwyta a’u harogl yn fy atgoffo o’r gadlas gyda’r hwyr ar y fferm ble ces i fy magu.

Selby Town v Skegness Town (4.8.18)

Selby Town 4-0 Skegness Town
Adran 1 Cynghrair Siroedd y Gogledd (Dwyrain)
Stadiwm Fairfix Plant Hire
Pris Mynediad: £5 (os dwi’n cofio’n iawn)

Torf: 151

Selby yw’r dref agosaf i gartref fy rhieni yng nghyfraith, ond dwi ddim yn gyfarwydd iawn efo’r dref, yn bennaf gan nad yw Efrog lawer pellach, felly yno byddwn yn mynd i siopa neu ddiota. Mae Selby’n dref fach digon prysur, ac yn ei chanol mae Abaty mawr trawiadol o’r oesoedd canol.

Mae’r maes yn agos i ganol y dref, wedi’i leoli y tu ôl i’r pwll nofio, a chyferbyn a’r pwll nofio mae maes parcio Sainsbury’s ble gallwch barcio am ddim am hyd at ddwy awr.

Fel yr arfer, cyrraedd fel roedd y gêm ar ddechrau wnes i ac roedd yna hyd yn oed ciw i fynd i mewn. Ond wedi’r cyfan, roedd hi’n gêm gyntaf y tymor, roedd hi’n ddiwrnod braf ac roedd disgwyliadau’n uchel wedi i’r tîm orffen mewn safle uchel y tymor diwethaf. Eleni hefyd yw camlwyddiant y clwb.

.

Bristol Manor Farm v Salisbury (28.4.18)

Bristol Manor Farm 2-3 Caersallog
Adran Un y Gorllewin Cynghrair y De
The Creek
Pris Mynediad: £8, rhaglen £2
Torf: 339

Roedd Bristol Manor Farm wedi bob ar fy bucketlist ers sawl tymor, mae bosib ers i mi ddarllen am ymweliad Matt, un o’r Lost Boyos, â’r clwb. Y tymor diwethaf fe enillodd y clwb ddyrchafiad i Adran Un y Gorllewin Cynghrair y De (un adran o dan Ferthyr Tudful) ac wrth edrych a restr gemau’r tymor hwn, sylwais eu bod yn yr un adran a Chaersallog. Hwn yw clwb ffenics Caersallog, wedi i’r un blaenorol fynd i’r wal yn ystod haf 2014 pan oedd yn yr un adran â Wrecsam, ac mae wedi bod yn brysur yn dringo’r pyramid ers hynny. Roeddwn i felly’n disgwyl i gêm olaf y tymor fod yn bwysig i Gaersallog ond nid o bosib i Manor Farm. Ond ar ddechrau’r diwrnod roedd Caersallog eisoes wedi sicrhau dyrchafiad drwy orffen yn ail, ac roedd Manor Farm a phedwar tîm arall yn dal i frwydro am y ddau le olaf yn y gemau ail-gyfle.

Er mod i’n byw mor agos i Fryste, dwi ddim wedi manteisio digon ar hynny, felly cyn ei throi hi am y gêm es am dro ar hyd Spike Island i chwilio am syniadau er mwyn dychwelyd i ymwled â nhw rhywbryd eto gyda’r teulu ac ymweld ag ambell dafarn. Dewisais Nova Scotia a’r Merchant’s Arms – dwy dafarn ‘hen ddyn’ go iawn. Roedd gan y Nova Scotia landlord bachog a bwydlen hen ffasiwn o ham, wy a sglods gyda dewis llysieuol o cauliflower cheese, bara menyn a salad—antithesis llwyr i’r dude food hipsteraidd a oedd i’w gael yn Wapping Wharf (lle cefais buns Coreaidd) ac roeddwn yn hapus o weld Deuchards IPA ar y bar. Roedd gennyf ddigon o amser am hanner yn y Merchant’s Arms, tafarn fechan a chlud gyferbyn â’r arhosfan bws roeddwn ei angen i gyrraedd y maes.

Mae’r clwb wedi’i leoli ym maestref Sea Mills, tair milltir a hanner i gyfeiriad y gogledd-orllewin o ganol dinas Bryste, wedi’i wasgu braidd rhwng ffordd fawr ar un ochr a rheilffordd ac afon, erm, Afon, ac ar un pwynt yn ystod y gêm aeth trên a chwch hwylio heibio AR YR UN PRYD! Eniweeeee, mae bws Parcio a Theithio Portway o ganol y ddinas yn stopio o flaen y stadiwm. Os dangoswch chi’ch tocyn bws, cewch dair punt (sef cost y tocyn bws) oddi ar y pris mynediad i’r gêm. Er mor dda yw’r cynnig hwn, roeddwn i’n teimlo bach yn euog yn amddifadu’r clwb o arian prin, felly gwnes yn iawn am hynny drwy brynu rhaglen, tocyn raffl, sglods, cwrw a seidr yn y club house mawr. “Family funeral always welcomed and excellent buffet” medd yr adolygiad cyntaf ar Google am y lle, ond doedd dim cynhebrwng ymlaen heddiw, ac roedd sgrin anferth o’r llawr i’r nenfwd yn dangos gêm Stoke a Lerpwl.

Roedd tua traean o’r dorf yn gefnogwyr Caersallog reit uchel eu cloch oherwydd eu dyrchafiad, ond o fewn 6 munud roedd y tîm cartref ar y blaen drwy gic o’r smotyn, gan roi cyfle i’r ryw bymtheg o’r Farmy Army tu ôl gôl wawdio’r ‘clwb mawr’. Ond unionodd yr ymwelwyr y sgôr yn fuan wedyn. Aeth Manor Farm ar y blaen unwaith eto…a gadael i Gaersallog ddod yn gyfartal yn fuan wedyn. Doedd gêm gyfartal ddim yn ddigon wrth gwrs ac roedd y cefnogwyr cartref yn mynd yn fwy aflonydd yn yr ail-hanner yn enwedig gyda’r canlyniadau eraill yn mynd yn eu herbyn yn ôl Twitter, ond roedd popeth ar ben pan aeth Caersallog ar y blaen a gorffennodd y gêm yn 2-3.

Daliais y bws yn ôl i’r ddinas ble cwrddais â Carl yn nhafarn yr Old Duke ar stryd Welsh Back. Er ein bod yn mwynhau’r jazz byw, roedd yn amser symud ymlaen ond roedd amser am hanner fach cyn dal y trên. Cynigodd Carl dafarn ddim rhy bell o’r orsaf, y Cornubia. Ni’n dau oedd y ieuengaf yno, doedd dim un merch ar gyfyl y lle ac roedd y lle’n llawn union jacks, baneri Urdd y Deml a’r symbol mwyaf taeogaidd ohonynt i gyd, sef logo Undeb Rygbi Cymru – dwi’n poeni bod Carl wedi cael ei radicaleiddio ers symud i Loegr. Ond roedd y cloc yn tician a doedd dim amser chwilio am le arall (ac os dwi’n onest, roedd hi’n dafarn reit neis).

Fi y tu allan i’r Cornubia.

Forest Green Rovers v Wrecsam (2.4.16)

Forest Green Rovers 0-0 Wrecsam
Cynghrair Cenedlaethol (Lloegr)
The New Meadow
Pris Mynediad: £14
Torf: 2246 (568 o gefnogwyr Wrecsam)

Mae’r Forest Green Rovers yn chwarae yn nhref fechan (neu bentref mawr?) Nailsworth yn Sir Gaerloyw, dim ond rhyw awr a chwarter i ffwrdd o Gaerdydd, a’r gêm oddi cartref Wrecsam agosaf i mi y tymor hwn. Roeddwn i wedi bod yma deirgwaith o’r blaen, gyda Wrecsam yn ennill ar bob achlysur, ond doeddwn i ddim yn obeithiol am ganlyniad tebyg y tro hwn, oherwydd roedd FGR yn ail yn y gynghrair. Rhywbeth arall gwahanol am yr ymweliad hwn oedd na fyddwn i’n mynd i’r Village Inn, tafarn Nailsworth Brewery cyn y gêm, ond yn ffodus roedd y Big Red Bus Bar wedi’i barcio y tu ôl i eisteddle’r cefnogwyr oddi cartref.

Tra roedd cefnogwyr Wrecsam yn mwynhau peint y tu allan yn yr heulwen, roedd adloniant cyn-gêm gwahanol iawn yn cael ei gynnig y tu mewn i’r stadiwm.

Parhau i ddarllen

Briton Ferry Llansawel v Llanelli (21.10.16)

Briton Ferry Llansawel 2-2 Llanelli
Adran 2 Cynghrair Cymru’r De

Old Road
Pris Mynediad: £4

Rhaglen: £1 
Torf: 506
Paned: Cwpan blastig

Roedd digon o ddewis gemau y nos Wener hon, gan gynnwys darbi’r Rhondda rhwng Ton Pentre a CBM Cambrian a Clydach, er fy mwriad oedd ail ymweld â Ffynnon Taf gan ei bod yn gyfleus. Ond pan glywais fod fy narpar gyd-deithiwr yn sâl, penderfynais fentro ymhellach i wylio Britton Ferry Llansawel yn erbyn Llanelli.

Mae BF Llansawel yn glwb blaengar sydd newydd fuddsoddi mewn eisteddle newydd 175 sedd er mwyn bodloni gofynion newydd Haen 2 Cymdeithas Pêl-droed Cymru, ond iddynt gael eu trin yn go annheg gan y Gynghrair Cymru’r De yr haf hwn a gorfod disgyn o Adran 1 i Adran 2 (Haen 3 yng Nghymru) er iddynt orffen y tymor pedwerydd o’r gwaelod a thu allan i’r safleoedd cwympo.

Ond i fynd yn hunanol, rhoddodd hyn gyfle i mi eu gwylio gartref yn erbyn clwb mawr yr adrannau is, sef Llanelli, sydd bellach ar y ffordd yn ôl i fyny’r pyramid yn dilyn trafferthion ariannol mawr diweddar. Mae Llanelli bellach ar frig Adran 2 ac wedi denu Lee Trundle o’i ymddeoliad, gyda chyn arwr yr Elyrch (a Wrecsam gynt!) yn cipio sawl triphwynt gwerthfawr iddynt gyda’i goliau gwych.
Parhau i ddarllen

Hysbysiad: Groundhop Cymru 2016 26-29.8.16

Yn ystod Gŵyl y Banc mis Awst bydd gloddest o bêl-droed yn ne-ddwyrain Cymru, Dyma fydd 15fed blwyddyn groundhop yng Nghymru. Pob blwyddyn mae’r trefnywr yn dewis cynghrair ac yn gofyn a fyddai’r gynghrair a’r clybiau yn fodlon aildrefnu gemau’r penwythnos fel bod y groundhoppers yn gallu mynychu 11 gêm mewn pedwar diwrnod Mae’r gemau hyn yn denu pobl o bwr cwr o Ynys Prydain a thu hwn ac nid yw’n anghyffredin gweld torfeydd yn chwyddo o’r 30’au arferol i 300+ (gweler cofnodion blog y Groundhopper o fri Peter Miles yn 2013, 2104 a 2015).

Eleni, Cynghrair Undebol De Cymru (lefelau 5-7 yng Nghymru) sydd dan sylw. Mae’r penwythnos yn cychwyn nos Wener gyda thaith i Sully Sports v Pontyclun (18:45). Ar ddydd Sadwrn bydd pedair gêm. Y cyntaf fydd Llanilltud Faerdref v Betws (10:30), cyn mynd i Fochrhiw v Aberfan (13:15), yna Clwb Bechgyn a Merched Penydaren v Clwb Bechgyn Ton a Gelli (16:00) a daw’r diwrnod i ben gyda Pontlotyn v Seintiau Merthyr (18:45).  Bydd  gemau dydd Sul yn dechrau ym Mharc Blandy cartref gwych Garw SBGC yn eu gêm yn erbyn Trebanog (11:30) cyn symud ymlaen i Cefn Cribwr v Penrhiwfer (14:30), a gêm olaf y dydd yw Corneli Unedig v Porthcawl Athletic (18:00). Bydd gemau dydd Llun yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg gan ddechrau gyda Canton Liberals v Trebiwt (11:00), yna tafliad carreg i ffwrdd Grange Albion v Corinthiaid Caerdydd (13:45), a gêm olaf yr hop yw Tregatwg y Barri v Cogan Corination (5pm).

Mae pob math o becynnau ar gael, gan gynnwys tocynau penwythnos, tocynau diwrnod, bysiau o un gêm i’r llall a hyd yn oed llety. Manylion ar y PDF hwn*.

Gellir cael y newyddion diweddaraf drwy ddilyn @Groundhop2016.

*Mae trefn y gemau ychydig yn wahanol ar y PDF gan fod amseroedd rhai wedi symud.

Ely Rangers v Llantwit Major (18.5.16)

Ely Rangers 0-1 Llanilltud Fawr
Adran 3 Cynghrair Cymru’r De

Station Road
Pris Mynediad: £5 (yn cynnwys rhaglen a pheint o Carling neu baned o de) 

Torf: 45 (amcangyfrif)

Paned: Cwpan blastig
Meddyliais y byddai’n well i mi ymweld â’r clwb y tymor hwn, rhag ofn i’r clwb ddisgyn allan o’r gynghrair. Roedd pump am fynd i lawr ar ddechrau’r tymor er mwyn ailstrwythuro’r gynghrair ac roedd pethau’n edrych y ddu adeg Dolig, ond roedd pethau wedi gwella i’r graddau y gallent osgoi’r gwymp o drwch blewyn, ond byddai wir angen ennill y gêm hon gan fod gan y tîm oddi tanynt gêm yn ychwanegol i’w chwarae.

Dyma faes hyfryd arall, a hawdd ei gyrraedd ar drafnidiaeth cyhoeddus (mae ychydig latheni i lawr lôn wledig Station Road East gyferbyn â Gwenfo). Y tu ôl i un gôl mae adeilad sy’n gartref i’r clubhouse (sydd efo bar a hatch gwerthu paned) a’r ystafelloedd newid. Rhwng yr adeilad hwn a’r cae mae ardal fach llawn byrddau picnic ble gallwch yfed peint a gwylio’r gêm, ac yn yr ardal hon roedd gazeebo a boi’n fflipio byrgyrs – ro’n i wedi syrthio mewn cariad efo’r clwb yn syth fel y bu i mi fwyta fy byrger tarddaid-anhysbys cyntaf ers yr argyfwng BSE! Ar hyd un ochr y cae mae stand bach a phob ochr i hwnnw ar hyd ochr y cae tua metr uchben y cae mae man sefyll sy’n rhoi golygfa wych o’r gêm. (Llwyddais i anghofio fy nghamra ETO, ond mae’r fideo hon yn dangos beth dwi’n feddwl.)

Yn ôl i’r gêm, ac roedd Ely Rangers yn mynd amdani chwarae teg, ond dyma dyma Llanilltud yn torri a sgorio gôl (reit meddal i fod yn deg, ond dwi’n credu mai trydydd dewis oedd y golgeidwad druan – roedd un golgeidwad yn gweithio i ffwrdd a’r llall wedi anafu).

Er gwaetha colli’r gêm llwyddodd y clwb i orffen y tu allan i’r pum isaf, ond doedd pethau ddim yn edrych yn dda i Ely Rangers pan gafodd Port Talbot eu diarddel o Uwchgynghrair Cymru, gan olygu bod tîm ychwanegol yn disgyn i lawr o bob adran. Ond, death achubiaeth, wedi i glwb Tata Steel (o Adran 2) dynnu allan o’r gynghrair, gan olygu na fyddai Ely Rangers yn cwympo wedi’r cyfan. Ffiw!

Barry Town United v Denbigh Town (5.12.15)

Tref y Barri Unedig 6 – 1 Tref Dinbych
Cwpan Cymru Rownd 3
Torf: 250/300 (amcangyfrif)
Pris mynediad: £5

Roeddwn wedi bod i Barc Jenner ddwywaith o’r blaen – unwaith i wylio’r Barri yn erbyn Bangor yn Uwchgynghrair Cymru ac i gêm dan-21 Cymru yn erbyn Serbia – ond roedd deng mlynedd a mwy wedi mynd heibio ers hynny mae’n siwr. Tra’n chwilio am dîm newydd i’w ddilyn yn ne Cymru, mae’r Barri’n ticio llawer o’r blychau (clwb gydag uchelgais, torfeydd tri ffigur, cymharol hawdd i’w gyrraedd o’m cartref ar drafnidiaeth gyhoeddus), ond roedd dau ffactor yn fy mhoeni, sef bod y maes yn dechnegol yn un all-seater, fy nghasbeth, ac hefyd mae trac rhedeg o amgylch y cae.

Un anfantais o hel-droed yw eich bod yn mynd i wylio gemau lle nad oes llawer o ots gennych pwy sy’n ennill, a thydi canlyniad gemau cynghrair ar ddechrau tymor ddim fel tasen nhw mor bwysig â hynny i ffan niwtral. Gan fy mod i eisoes wedi cael blas ar Gwpan Word y tymor hwn, ro’n i‘n edrych ymlaen at Gwpan Cymru, felly pan ddaeth enw Tref Dinbych (cefais fy magu dwy filltir i ffwrdd o Ddinbych) o’r het i chwarae yn y Barri, roedd rhaid mynd i’r gêm honno.

Wrth gerdded at y maes, clywais y gân ‘Yma o hyd’ gan Dafydd Iwan yn cael ei chwarae ar yr uchelseinydd. Mae’r geiriau ‘Yma o hyd’ hefyd yn ymddangos ar glawr rhaglen y clwb, sy’n cyfeirio mae’n siŵr at gyfnod cythryblus ofnadwy a brofodd y clwb yn ddiweddar.

Roeddwn i eisoes wedi gweld y ddau dîm yn chwarae reit ar ddechrau’r tymor, gyda Dinbych yn anlwcus i golli gartref yn erbyn Caernarfon, a’r Barri’n curo Rhisga’n weddol gyfforddus. Ers hynny roedd Dinbych wedi synnu pawb drwy gyrraedd rownd derfynol Cwpan Word gan faeddu tri thîm o Uwchgynghrair Cymru ar y ffordd, ac roeddwn i’n weddol hyderus mai nhw fyddai’n curo heddiw hefyd.

Yn yr hanner cyntaf eisteddais yn eisteddle’r dwyrain, sef y lleiaf o’r ddau eisteddle, ac roeddwn yn falch o weld nad oedd y cae ei hun yn ymddangos yn bell i ffwrdd er gwaetha’r trac rhedeg rhyngom. Hefyd, roedd criw go dda o’r cefnogwyr cartref yn sefyll tua cefn yr eisteddle gyferbyn â mi, ac yn gwneud tipyn o sŵn, (cafwyd sawl perfformiad o I’ve got a fire in my heart for you gan SFA!), felly naill ai mod i wedi dychmygu bod stiwardiaid yn gorfodi cefnogwyr i eistedd yn ystod fy ymweliadau yn y gorffennol, neu falle nad ydynt yn trafferthu cymaint y dyddiau hyn, tra bod y tîm yn chwarae o flaen torfeydd llai ac mewn adran is.

Tra roeddwn yn hapus gyda’r maes, doedd perfformiad Dinbych yn sicr ddim yn plesio. Roedd chwaraewyr Dinbych yn edrych mor chwithig, gyda’r chwaraewyr canol cae a’r amddiffynwyr yn llithro’n aml ac yn gwneud sawl pas wag a oedd yn rhoi eu cyd-chwaraewyr dan bwysau o flaen eu gôl. Mae rhwng traean a hanner y clybiau yn Adran 1 Cynghrair Cymru (y De) bellach yn chwarae ar feysydd artiffisial, tra dwi ddim yn meddwl bod dim byd tebyg i’r ffigur hyn yn y Gynghrair Undebol, ond all y tim ddim defnyddio hynny fel esgus.

Gyda’r Barri 3-0 ar y blaen hanner amser a gwynt oer cryf yn fy oeri, es am baned. Gan mai mond caniau John Smiths Smooth a Fosters oedd ar gael fel diod cadarn, ro’n i’n falch mod i’n gyrru, er daeth y te mewn cwpan polysterene. Gwyliais yr ail-hanner yn eisteddle’r gorllewin a oedd yn cynnig bach mwy o gysgod ac a oedd yn eitha llawn o gefnogwyr. Doedd yr ail-hanner ddim gwell o safbwynt Dinbych, a gyda bron i bum munud yn weddill a’r sgôr yn 5-1, gwnes yr anfaddeuol a gadael yn gynnar – ac felly methais chweched gôl y Barri.