Bristol Manor Farm v Salisbury (28.4.18)

Bristol Manor Farm 2-3 Caersallog
Adran Un y Gorllewin Cynghrair y De
The Creek
Pris Mynediad: £8, rhaglen £2
Torf: 339

Roedd Bristol Manor Farm wedi bob ar fy bucketlist ers sawl tymor, mae bosib ers i mi ddarllen am ymweliad Matt, un o’r Lost Boyos, â’r clwb. Y tymor diwethaf fe enillodd y clwb ddyrchafiad i Adran Un y Gorllewin Cynghrair y De (un adran o dan Ferthyr Tudful) ac wrth edrych a restr gemau’r tymor hwn, sylwais eu bod yn yr un adran a Chaersallog. Hwn yw clwb ffenics Caersallog, wedi i’r un blaenorol fynd i’r wâl yn ystod haf 2014 pan oedd yn yr un adran â Wrecsam, ac mae wedi bod yn brysur yn dringo’r pyramid ers hynny. Roeddwn i felly’n disgwyl i gêm olaf y tymor fod yn bwysig i Gaersallog ond nid o bosib i Manor Farm. Ond ar ddechrau’r diwrnod roedd Caersallog eisoes wedi sicrhau dyrchafiad drwy orffen yn ail, ac roedd Manor Farm a phedwar tîm arall yn dal i frwydro am y ddau le olaf yn y gemau ail-gyfle.

Er mod i’n byw mor agos i Fryste, dwi ddim wedi manteisio digon ar hynny, felly cyn ei throi hi am y gêm es am dro ar hyd Spike Island i chwilio am syniadau er mwyn dychwelyd rhywbryd eto gyda’r teulu ac ymweld ag ambell dafarn. Dewisais Nova Scotia a’r Merchant’s Arms – dwy dafarn ‘hen ddyn’ go iawn. Roedd gan y Nova Scotia landlord bachog a bwydlen hen ffasiwn o ham, wy a sglods gyda dewis llysieuol o cauliflower cheese, bara menyn a salad—antithesis llwyr i’r dude food hipsteraidd a oedd i’w gael yn Wapping Wharf (lle cefais buns Coreaidd) ac roeddwn yn hapus o weld Deuchards IPA ar y bar. Roedd gennyf ddigon o amser am hanner yn y Merchant’s Arms, tafarn fechan a chlud gyferbyn â’r arhosfan bws roeddwn ei angen i gyrraedd y maes.

Mae’r clwb wedi’i leoli ym maestref Sea Mills, tair milltir a hanner i gyfeiriad y gogledd-orllewin o ganol dinas Bryste, wedi’i wasgu braidd rhwng ffordd fawr ar un ochr a rheilffordd ac afon, erm, Afon, ac ar un pwynt yn ystod y gêm aeth trên a chwch hwylio heibio AR YR UN PRYD! Eniweeeee, mae bws Parcio a Theithio Portway o ganol y ddinas yn stopio o flaen y stadiwm. Os dangoswch chi’ch tocyn bws, cewch dair punt (sef cost y tocyn bws) oddi ar y pris mynediad i’r gêm. Er mor dda yw’r cynnig hwn, roeddwn i’n teimlo bach yn euog yn amddifadu’r clwb o arian prin, felly gwnes yn iawn am hynny drwy brynu rhaglen, tocyn raffl, sglods, cwrw a seidr yn y club house mawr. “Family funeral always welcomed and excellent buffet” medd yr adolygiad cyntaf ar Google am y lle, ond doedd dim cynhebrwng ymlaen heddiw, ac roedd sgrin anferth o’r llawr i’r nenfwd yn dangos gêm Stoke a Lerpwl.

Roedd tua traean o’r dorf yn gefnogwyr Caersallog reit uchel eu cloch oherwydd eu dyrchafiad, ond o fewn 6 munud roedd y tîm cartref ar y blaen drwy gic o’r smotyn, gan roi cyfle i’r ryw bymtheg o’r Farmy Army tu ôl gôl wawdio’r ‘clwb mawr’. Ond unionodd yr ymwelwyr y sgôr yn fuan wedyn. Aeth Manor Farm ar y blaen unwaith eto…a gadael i Gaersallog ddod yn gyfartal yn fuan wedyn. Doedd gêm gyfartal ddim yn ddigon wrth gwrs ac roedd y cefnogwyr cartref yn mynd yn fwy aflonydd yn yr ail-hanner yn enwedig gyda’r canlyniadau eraill yn mynd yn eu herbyn yn ôl Twitter, ond roedd popeth ar ben pan aeth Caersallog ar y blaen a gorffennodd y gêm yn 2-3.

Daliais y bws yn ôl i’r ddinas ble cwrddais â Carl yn nhafarn yr Old Duke ar stryd Welsh Back. Er ein bod yn mwynhau’r jazz byw, roedd yn amser symud ymlaen ond roedd amser am hanner fach cyn dal y trên. Cynigodd Carl dafarn ddim rhy bell o’r orsaf, y Cornubia. Ni’n dau oedd y ieuengaf yno, doedd dim un merch ar gyfyl y lle ac roedd yn lle’n llawn union jacks, baneri Urdd y Deml a’r symbol mwyaf taeogaidd ohonynt i gyd, sef logo Undeb Rygbi Cymru – dwi’n poeni bod Carl wedi cael ei radicaleiddio ers symud i Fryste. Ond roedd y cloc y tician a doedd dim amser chwilio am le arall (ac os dwi’n onest, roedd hi’n dafarn reit neis).