Selby Town v Skegness Town (4.8.18)

Selby Town 4-0 Skegness Town
Adran 1 Cynghrair Siroedd y Gogledd (Dwyrain)
Stadiwm Fairfix Plant Hire
Pris Mynediad: £5 (os dwi’n cofio’n iawn)

Torf: 151

Selby yw’r dref agosaf i gartref fy rhieni yng nghyfraith, ond dwi ddim yn gyfarwydd iawn efo’r dref, yn bennaf gan nad yw Efrog lawer pellach, felly yno byddwn yn mynd i siopa neu ddiota. Mae Selby’n dref fach digon prysur, ac yn ei chanol mae Abaty mawr trawiadol o’r oesoedd canol.

Mae’r maes yn agos i ganol y dref, wedi’i leoli y tu ôl i’r pwll nofio, a chyferbyn a’r pwll nofio mae maes parcio Sainsbury’s ble gallwch barcio am ddim am hyd at ddwy awr.

Fel yr arfer, cyrraedd fel roedd y gem ar ddechrau wnes i ac roedd yna hyd yn oed ciw i fynd i mewn. Ond wedi’r cyfan, roedd hi’n gem gyntaf y tymor, roedd hi’n ddiwrnod braf ac roedd disgwyliadau’n uchel wedi i’r tîm orffen mewn safle uchel y tymor diwethaf. Eleni hefyd yw camlwyddiant y clwb.

.