Barry Town United v Denbigh Town (5.12.15)

Tref y Barri Unedig 6 – 1 Tref Dinbych
Cwpan Cymru Rownd 3
Torf: 250/300 (amcangyfrif)
Pris mynediad: £5

Roeddwn wedi bod i Barc Jenner ddwywaith o’r blaen – unwaith i wylio’r Barri yn erbyn Bangor yn Uwchgynghrair Cymru ac i gêm dan-21 Cymru yn erbyn Serbia – ond roedd deng mlynedd a mwy wedi mynd heibio ers hynny mae’n siwr. Tra’n chwilio am dîm newydd i’w ddilyn yn ne Cymru, mae’r Barri’n ticio llawer o’r blychau (clwb gydag uchelgais, torfeydd tri ffigur, cymharol hawdd i’w gyrraedd o’m cartref ar drafnidiaeth gyhoeddus), ond roedd dau ffactor yn fy mhoeni, sef bod y maes yn dechnegol yn un all-seater, fy nghasbeth, ac hefyd mae trac rhedeg o amgylch y cae.

Un anfantais o hel-droed yw eich bod yn mynd i wylio gemau lle nad oes llawer o ots gennych pwy sy’n ennill, a thydi canlyniad gemau cynghrair ar ddechrau tymor ddim fel tasen nhw mor bwysig â hynny i ffan niwtral. Gan fy mod i eisoes wedi cael blas ar Gwpan Word y tymor hwn, ro’n i‘n edrych ymlaen at Gwpan Cymru, felly pan ddaeth enw Tref Dinbych (cefais fy magu dwy filltir i ffwrdd o Ddinbych) o’r het i chwarae yn y Barri, roedd rhaid mynd i’r gêm honno.

Wrth gerdded at y maes, clywais y gân ‘Yma o hyd’ gan Dafydd Iwan yn cael ei chwarae ar yr uchelseinydd. Mae’r geiriau ‘Yma o hyd’ hefyd yn ymddangos ar glawr rhaglen y clwb, sy’n cyfeirio mae’n siŵr at gyfnod cythryblus ofnadwy a brofodd y clwb yn ddiweddar.

Roeddwn i eisoes wedi gweld y ddau dîm yn chwarae reit ar ddechrau’r tymor, gyda Dinbych yn anlwcus i golli gartref yn erbyn Caernarfon, a’r Barri’n curo Rhisga’n weddol gyfforddus. Ers hynny roedd Dinbych wedi synnu pawb drwy gyrraedd rownd derfynol Cwpan Word gan faeddu tri thîm o Uwchgynghrair Cymru ar y ffordd, ac roeddwn i’n weddol hyderus mai nhw fyddai’n curo heddiw hefyd.

Yn yr hanner cyntaf eisteddais yn eisteddle’r dwyrain, sef y lleiaf o’r ddau eisteddle, ac roeddwn yn falch o weld nad oedd y cae ei hun yn ymddangos yn bell i ffwrdd er gwaetha’r trac rhedeg rhyngom. Hefyd, roedd criw go dda o’r cefnogwyr cartref yn sefyll tua cefn yr eisteddle gyferbyn â mi, ac yn gwneud tipyn o sŵn, (cafwyd sawl perfformiad o I’ve got a fire in my heart for you gan SFA!), felly naill ai mod i wedi dychmygu bod stiwardiaid yn gorfodi cefnogwyr i eistedd yn ystod fy ymweliadau yn y gorffennol, neu falle nad ydynt yn trafferthu cymaint y dyddiau hyn, tra bod y tîm yn chwarae o flaen torfeydd llai ac mewn adran is.

Tra roeddwn yn hapus gyda’r maes, doedd perfformiad Dinbych yn sicr ddim yn plesio. Roedd chwaraewyr Dinbych yn edrych mor chwithig, gyda’r chwaraewyr canol cae a’r amddiffynwyr yn llithro’n aml ac yn gwneud sawl pas wag a oedd yn rhoi eu cyd-chwaraewyr dan bwysau o flaen eu gôl. Mae rhwng traean a hanner y clybiau yn Adran 1 Cynghrair Cymru (y De) bellach yn chwarae ar feysydd artiffisial, tra dwi ddim yn meddwl bod dim byd tebyg i’r ffigur hyn yn y Gynghrair Undebol, ond all y tim ddim defnyddio hynny fel esgus.

Gyda’r Barri 3-0 ar y blaen hanner amser a gwynt oer cryf yn fy oeri, es am baned. Gan mai mond caniau John Smiths Smooth a Fosters oedd ar gael fel diod cadarn, ro’n i’n falch mod i’n gyrru, er daeth y te mewn cwpan polysterene. Gwyliais yr ail-hanner yn eisteddle’r gorllewin a oedd yn cynnig bach mwy o gysgod ac a oedd yn eitha llawn o gefnogwyr. Doedd yr ail-hanner ddim gwell o safbwynt Dinbych, a gyda bron i bum munud yn weddill a’r sgôr yn 5-1, gwnes yr anfaddeuol a gadael yn gynnar – ac felly methais chweched gôl y Barri.

Gadael sylw